GwendaWILLIAMSYn dawel ar ddydd Sul, Rhagfyr 15fed yng Nghartref Woodfield, Arberth yn 87 mlwydd oed hunodd Gwenda, gynt o Rhydygors, Sanclêr a Lanygors, Llangynog. Priod ffyddlon y diweddar Glyn, mam gariadus Tegwyn, llys-fam, mam-gu a chwaer annwyl Glyn, Godredewi. Angladd dydd Sadwrn, Rhagfyr 21ain 2019. Gwasanaeth Cyhoeddus yng Nghapel Cana, Bancyfelin am 11.00yb. Blodau'r teulu yn unig. Rhoddion er cof, os dymunir, tuag at The Stroke Association trwy law Glanmor D Evans a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Capel Gorffwys Login, Heol Llangynnwr, Caerfyrddin SA31 2PG Ffôn: 01267 241626
Keep me informed of updates